Wales and West Region Logo Wales and West Air Cadets Air Cadet Logo
Strwythur Rhengoedd

Strwythur Rhengoedd yw asgwrn cefn gwasanaeth milwrol. Maent yn galluogi strwythur disgybliaeth lle gall orchymyn basio o rheng uwch at rheng is er mwyn cynnal effeithiolrwydd awdurdodol. Mae Corfflu Hyfforddiant yr Awyr yn cynnal y strwythur yma drwy osod strwythur rhengoedd drwy’r mudiad, o gadét hyd at Gomodôr yr Awyrlu.

Rhengoedd Cadét

Mae gennym bump rheng gadét; Cadét, is-Rhingyll, Rhingyll, Awyr-Ringyll a Gwarantswyddog-Gadét. Dosbarthir pob rheng cadét fel rheng digomisiwn; nid ydych yn saliwtio rheng digomisiwn. Fel cadét heb dyrchafiad, nid ydych yn gwisgo sleid rheng. Amlinellir y rhengoedd eraill (is-Rhingyll hyd at Warantswyddog-Gadét) islaw: -


Is-Rhingyl

Corporal

Dosbarthir pob rheng cadét fel un digomisiwn (Non-Commissioned Officer - NCO). Y cam cyntaf o symudiad cadét fydd i is-Rhingyll, gyda hwn yn rheng NCO iau. Bydd is-Rhingyll yn gyfrifol am ddisgyblaeth y cadétiaid a rhoi gorchmynion i gyflenwi tasgau a dyletswyddau a orchmynir gan rhengoedd uwch. Fel arfer daw dyrchafiad wedi ryw dwy neu dair mlynedd o wasanaeth. Fel arfer bydd yr ymgeisydd yn Gadét Blaen ac wedi dangos aeddfedrwydd a sgiliau arweinyddiaeth. Mae apwyntiad i’r swydd yn ddibynnol ar ddoethineb a barn Swyddog Mewn Gofal y Sgwadron. Cewch hefyd fynychu cwrs JNCO (NCO iau), a gynhelir fel arfer ar lefel y Sgwadron.

Rhingyll

Sergeant

Wedi blwyddyn - ac os, yn nhyb Comandar y Sgwadron – yr ydych wedi dangos y gallu i fod yn is-Rhingyll effeithiol, efallai cewch ddyrchafiad i rheng NCO uwch (SNCO) – Rhingyll. Unwaith eto, bydd y system o ddewis yn cael ei weithredu. Dylech fod o leiaf yn Gadét Uwch. Fel SNCO Disgwylir i chi dderbyn mwy o ddyletswyddau a chyfrifoldeb nag is-Rhingyll. Dylech hefyd fynychu gwrs NCO uwch.

 

Awyr-Ringyll

Flight Sergeant

Ceir dyrchafiad i Awyr-Ringyll wedi i chi ddangos galluoedd a nodweddion uwchlaw gofynion Rhingyll. Wrth i’r enw arwyddocáu, fel Awyr-Ringyll byddwch mewn gofal ehediad o gadétiaid. Byddwch hefyd yn mynychu cwrs hyfforddiant Uwch gyda’ch Sgwadron.

 

Gwarantswyddog-Gadét

Cadet Warrant Officer

Hwn yw’r rheng uchaf all gadét gyrraedd. Daw’r dyrchafiad fel arfer wedi cyfweliad ym mhencadlys yr Adain gan swyddogion yr Adain. Rhaid bod o leiaf 18 mlwydd oed i ennill y dyrchafiad yma, ac yn Gadét Staff.

 

 
 
 
 

 

[ Cyflwyniad | English | Newyddion | Datganiad Preifatrwydd | Ymwadiad y Wêfan | Cysylltwch â ni | Site Map ] Top of page
© Copyright Air Training Corps, Wales and West Region. All Rights Reserved