Mae pob cadét
yn cymeryd rhan yn y rhaglen hyfforddiant; dilynir hyn trwy gydol
eu gwasanaeth. Islaw gweler amlinelliad o’r cynllun ar pob
lefel. Am wybodaeth pellach, gellir lawrlwytho taflen A4, sydd ar
gael drwy clicio yma. Bydd
angen meddalwedd Adobe Acrobat Reader i weld y taflen; mae hyn ar
gael am ddim oddi ar wêfan Adobe - www.adobe.com
a cheir dewis ar gyfer systemau Windows, Mac, Linux a systemau gweithredol
eraill.
Mae'r tudalen hon hefyd yn darparu ychydig o wybodaeth am gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol all bob cadét dderbyn wrth gymeryd rhan yn y Rhaglen Hyfforddiant.
Cadét Dosbarth
Cyntaf

I dderbyn bathodyn Cadét
Dosbarth Cyntaf, mae’n rhaid eich bod wedi’i gofrestru,
ac wedi gorffen y maes llafur llawn o bynciau. Mae saith pwnc i’w
hastudio ar gyfer arholiad Cadét Dosbarth Cyntaf sef: Darllen
Mapiau; Hyfforddiant Alldeithio Elfennol; Hanes y Llu Awyr Brenhinol;
Hanes Hedfan; a Hedfanwriaeth 1.
Cadét Blaen

I ennill bathodyn Cadét
Blaen, mae’n rhaid eich bod wedi eistedd a phasio arholiad
Cadét Dosbarth Cyntaf, a chwblhau’r maes llafur llawn
ar gyfer arholiad Cadét Blaen ynghyd â chwblhau o leiaf
25 awr o waith Prosiect. Astudir tair pwnc ar gyfer arholiad Cadét
Blaen: Llywio Elfennol; Egwyddorion Hedfanaeth; a Hedfanwriaeth
2.
Cadét Uwch

I ennill bathodyn Cadét
Uwch, mae’n rhaid eich bod wedi eistedd a phasio arholiad
Cadét Blaen, a chwblhau’r maes llafur llawn ar gyfer
arholiad Cadét Uwch ynghyd â chwblhau o leiaf 25 awr
o waith Prosiect. Rhaid dewis dau bwnc o bedwar i’r arholiad
yma: Llywio Awyren; Gyriad; Ymdrîn Awyren; a Radio a Radar
Uwch.
Cadét Staff
(Rhannau 1 a 2)

Er mwyn eistedd rhan 1 neu
2 o arholiad Cadét Staff, mae’n rhaid bod yr ymgeisydd
wedi eistedd a phasio arholiad Cadét Uwch, bod o leiaf pymtheg
mlwydd a chwech mis oed, wedi cwblhau maes llafur y Cadét
Staff gan gynnwys hyfforddiant dinasyddiaeth swyddogol, a 25 awr
pellach o hyfforddiant prosiect. Mae’n rhaid bod Cadét
Staff hefyd wedi cwblhau prawf saethu Dosbarth Cyntaf o fewn y deuddeg
mis blaenorol; mae’n fanteisiol iawn os mae’r cadét
wedi mynychu un o wersylloedd blynyddol y Corfflu. Mae dwy rhan
i’r arholiad, a rhaid dewis dau o’r pedwar pwnc canlynol:
Llywio Peilot; Fframweithiau Hedfan; Hedfan Gweithredol a Chysylltiadau
Lloeren. Mae’r arholiad, fel pob un o’r lleill, wedi
ei osod gan Bencadlys Cadétiaid yr Awyr. Cwblheir yr ail
rhan ar eich sgwadron, lle bydd eich Swyddog Staff Adain yn eich
asesu ar eich gwybodaeth o’r Corfflu a thechneg darlithio.
Gwobr BTEC mewn Astudiaethau Hedfanaeth
Mae POB cadét yn gymwys
i dderbyn y wobr yma. Ennillir y wobr unwaith mae’r cadét
yn llwyddo i orffen maes llafur y Corfflu h.y. yn pasio arholiadau
Cadét Blaen, Uwch a Staff (Rhan 1).
Rhennir pynciau’r arholiad i unedau, a rhaid cwblhau 3 uned
i ennill y cymhwyster. Mae un uned, sydyn cynnwys Hedfanaeth Elfennol,
Hedfanwriaeth ac Elfennau Llywio yn orfodol. Astudir yr elfennau
yma fel rhan o faes llafur Cadét Blaen.
Ar gyfer y ddwy uned sy’n weddill, gellir dewis o’r
pynciau canlynol, sydd yn gyfatebol i hanner uned yr un: Ymdrîn
Awyren: Gyriad; Llywio Awyr; Radio a Radar Uwch; Hedfan Gweithredol;
Fframweithiau Awyr; Llywio Peilot; a Chysylltiadau Lloeren.
Diploma Cyntaf BTEC yn y Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae rhaglenni Lluoedd y Cadétiaid
wedi eu cyflwyno ers blynyddoedd i helpu pobol ifanc rhwng 13 ac
18 oed i feithrin hunan-hyder a gwella sgiliau gan gynnwys Datrys
Problemau, Cyfathrebu, Arweinyddiaeth a Gwaith Tîm.
Trwy rhaglen newydd a ddatblygwyd gan y “Cadet Vocational
Qualifications Office” (CVQO) bellach mae gan pob cadét
dros 16 oed y cyfle i ennill Diploma Cyntaf BTEC yn y Gwasanaethau
Cyhoeddus – sydd yn gyfatebol i 4 TGAU gradd A* i C (4 Gradd
Safonol yn yr Alban).
Ar hyn o bryd, Lluoedd y Cadétiaid yw’r unig mudiad
cenedlaethol i bobl ifanc sydd yn cynnig y cyfle i ddysgu’r
sgiliau gwerthfawr yma, a’r cyfle i ennill Diploma a gydnabyddir
yn genedlaethol gan gyflogwyr a mudiadau Addysg Uwch.
|