Wales and West Region Logo Wales and West Air Cadets Air Cadet Logo
Gwaith Prosiect - Modelaeth

Mae prosiectau modelaeth i’w cael yn y rhan fwyaf o Sgwadronau yn y Rhanbarth ac yn amgylchynu adeiladweithiau eang iawn. Tra’n dysgu sgiliau, mae cadétiaid yn dysgu am hanes yr awyren yr ydynt yn modelu, ac am ei rhan yn hanes Prydain.

Cadets working hard at Modelling

Adeiladir y modelau mwyaf cyffredin mewn arddull ‘Airfix’ plastig, fel arfer ar raddfa 1:48 neu 1:72. Mae’r raddfa mwy yn cynnwys llawer iawn mwy o fanylder ac yn caniatâu hyblygrwydd er mwyn creu model unigryw, ond yn gofyn am lefel uwch o sgil a mwy o amser i’w orffen. Mae’n hawdd datblygu’r math yma o fodel i fod yn rhan o ddiorama neu stondyn arddangos.

Mae yna nifer fawr o gystadleuthau i brofi’r modelwyr gorau, gan gynnwys gystadleuaeth flynyddol y Corfflu i ddarganfod y model gorau gan gadét unigol.

MiG-15

Mae cadétiaid hefyd yn adeiladu modelau allan o bren Balsa sydd yn hedfan; o gleidars syml i awyrennau cymleth gydag injannau mân a rheolaeth llinell neu radio. Maent yn dysgu sut i adeiladu awyren, sut mae awyren yn hedfan a sut mae injan awyren yn gweithio.

Cadets constructing flying modelsRC Gear

 

 

 

[ Cyflwyniad | English | Newyddion | Datganiad Preifatrwydd | Ymwadiad y Wêfan | Cysylltwch â ni | Site Map ] Top of page
© Copyright Air Training Corps, Wales and West Region. All Rights Reserved