Band yw un o’r prosiectau
mwyaf i’w cael ar Sgwadron, ac yn aml bydd bandiau o unedau
gwahanol yn uno er mwyn ymarfer neu i berfformio’n gyhoeddus.
Dyma un o’r adegau mwyaf i gadét bod yng ngolwg y cyhoedd,
gan bod band ar orymdaith ar blaen Parêd yn anodd iawn i’w
golli! Mae band cadét yn gallu meddu ar gyflenwad llawn o
offerynau prês, pren ac offerynnau taro, pawb yn dilyn yr
arweinydd.
Yn ystod eu hamser fel aelod
o fand, caiff gadét wersi i ddysgu chwarae offeryn o’i
dewis, a gwersi ar agweddau o orymdeithio a ffurfiant band milwrol.
Unwaith iddynt gyrraedd safon da, maent yn derbyn bathodyn sydd
yn gysylltiedig i’w hofferyn, sydd yn cael ei wisgo ar yr
iwnifform.
Cynhelir cystadleuaeth band
flynyddol yn RAF Halton.

Mae pob cerddor ifanc yn cofio'r cymeradwyaeth gan gynulleidfa, boed un person neu llond theatr. Y teimlad yna o wedi mwynhau chwarae cyngerdd llwyddiannus, a methu â disgwyl i'r cyngerdd nesaf.
Mae yna sawl cerddor ifanc
talentog o fewn Corfflu Hyfforddiant yr Awyr a phob blwyddyn, fel
arfer hanner tymor mis Chwefror, mae cadétiaid gyda sgiliau
chwarae da yn gallu cynnig ar wersyll wythnos yng ngholeg y Llu
Awyr Brenhinol, RAF Cranwell yn swydd Lincoln.
Mae’r cadétiaid
llwyddiannus yn cael gwario’u hamser yn mwynhau hyfforddiant
cerddorol ac yn cael ymarfer gydag aelodau band Coleg yr Ll A B.
Yr elfen mwyaf cyffrous i’r cadétiaid yw eu bod yn
gweithio tuag at gyngerdd ar ddiwedd yr wythnos gyda Band y Coleg.
  
Er mwyn fynychu’r dewisiadau
ar gyfer y gwersyll cerdd mae’n rhaid eich bod wedi cyrraedd
Gradd 3, ac yn berchen ar gymeradwyaeth gan athro/athrawes gerdd
neu fandmeistr. |