Wales and West Region Logo Wales and West Air Cadets Air Cadet Logo

Gwaith Prosiect – Adnabod Awyrennau

Yn wreiddiol, dechreuwyd y gweithgaredd yma yn ystod amser rhyfel, ond bellach mae adnabod awyrennau wedi datblygu fel medr ac yn brosiect i’w darganfod mewn sawl Sgwadron drwy’r Rhanbarth. Yn y prosiect yma, mae cadétiaid yn dysgu am awyrennau a hofrenyddion milwrol a sifil, beth yw eu nodweddion, a sut i’w hadnabod.

Mae adnabod awyrennau yn sialens. Mae awyrennau newydd a newidiadau i gynlluniau awyrennau yn ychwanegu at y rhestr o awyrennau i’w adnabod; mae’n broses parhaol. Mae’r sefyllfa cyfnewidiol parhaus yn cyflwyno sialens i’r sawl sydd yn dysgu’r pwnc, ac efallai y problem mwyaf gydag adnabod yw sut i’w ddysgu mewn modd effeithiol a byw.

Ceir cyflwyniad elfennol i adnabod awyrennau yn maes llafur hyfforddiant Cadétiaid yr Awyr, gan gynnwys deiagramau a chwestiynnau ar awyrennau'r Llu Awyr Brenhinol a osodir yn yr arholiadau dosbarthiad.

 

I brofi'r cadétiaid ymhellach, ceir cystadleuaeth adnabod awyrennau blynyddol ar lefelau Adain, Rhanbarth a Chorfflu, gyda phob tîm yn cynnwys tri cadét o'r un uned, ac un cadét unigol.

Mae’n rhaid i filwyr bod â’r gallu i adnabod awyrennau yn sydyn. Efallai bydd awyrennau y gelyn yn ymddangos yn sydyn o tu ôl mynyddau, dros coed neu allan o gwmwl. Mae awyrennau chwim yn anodd iawn i’w hadnabod. Mae adnabod awyrennau’n gywir yn hanfodol i’r sawl sydd yn amddiffyn er mwyn gwneud y penderfyniad iawn i ymosod neu beidio. Dylai aelodau tîm bod yn arbenigwyr wrth adnabod pob awyren neu hofrennydd, boed cyfeillgar neu’n gelyn a all hedfan yn isel mewn cylchfa brwydr. Dylai pob aelod o’r tîm anelu at 100% o gywirdeb wrth adnabod, gyda 90% fel lefel isafbwynt dderbyniol.

Er mwyn rhesymau ymarferol, dysgir technegau adnabod drwy ddefnydd o luniau am yr awyren o dan astudiaeth. Dau ddull elfennol o ddangos delweddau ydi’r defnydd o’r cit GOAR (Ground Observer Aircraft Recognition) a gwersi TEC sydd wedi eu cynllunio ar gyfer hyfforddiant adnabod awyrennau. Yn ychwanegol, gellir defnyddio cymhorthion hyfforddi graffeg, megis cardiau wedi eu printio a siartiau.

 

 

[ Cyflwyniad | English | Newyddion | Datganiad Preifatrwydd | Ymwadiad y Wêfan | Cysylltwch â ni | Site Map ] Top of page
© Copyright Air Training Corps, Wales and West Region. All Rights Reserved