Mae aelodaeth fel cadét yn agored i bobl ifanc, benyw a gwryw rhwng 13 ac 20 mlwydd oedd (22 am Swyddogion Gadét Gwarantedig) sydd yn derbyn y sialens. Yr oedran uwch am aelodau yw 18 oed. Mae yna groeso cyfartal i bawb o unryw genedlaetholdeb, cefndir a gallu.
Rydym yn croesawu Cadétiaid gydag Anabledd cyn belled nad ydi’r anabledd yn eu nadu rhag cymeryd rhan mewn nifer Rhesymol o weithgareddau, nac yn debygol i’w rhoi, neu i rhoi eraill mewn perygl.
Nid yw pawb sydd yn ymuno â ni eisiau dilyn gyrfa gyda’r Llu Awyr Brenhinol na’r diwydiant awyrofodol – NID YDYM yn fudiad recriwtio i’r Lluoedd Arfog – cewch bron cymaint o resymau i ymuno â ni ag sydd yna o aelodau.
Nid yw Cadétiaid yr Awyr wedi ei sefydlu dim ond ar gyfer y ‘dosbarth canol’ a’r cyfoethog. Yn 1999 aeth y tlws i’r Sgwadron orau ym Mhrydain i Sgwadron 50F (Lambeth) sydd wedi ei lleoli yn un o fwrdeistrefi mwyaf difreintiedig yn Llundain.
Rydym yn cadw costau aelodaeth i’r lleiafswm posibl – ac yn cyflenwi’ch iwnifform yn rhad ac am ddim.
Mae’r ACO yn fudiad ieuenctid ‘milwrol’ ac felly yn cynnal safonnau uchel iawn. Byddwn yn disgwyl i chi gymeryd balchder yn eich iwnifform edrychiad, bod yn fanesol ac yn HUANAN-ddisgybliedig – byddwch yn ymuno â rhywbeth i fod yn balch ohono.
Mi fyddwn hefyd yn disgwyl i chi gymeryd rhan mewn cymaint o weithgareddau ag sydd bosibl – does dim angen llawer o berswâd ar y rhan fwyaf o gadétiaid i wneud hyn!!!
“Y mwyaf yr ydych yn rhoi i fewn i Gadétiaid yr Awyr, y mwyaf yr ydych yn cael yn ôl – mae yna wastad rywbeth ychwanegol i’w wneud neu i fynd ar ei ôl.”
I ddarganfod lle mae’ch Sgwadron Cadétiaid yr Awyr agosaf, defnyddiwch y darganfyddydd Sgwadron.
Mae llawer o’n Sgwadronau yn hapus i groesawu ymweliadau gan bobl ifanc sydd yn meddwl ymuno (yn ddelfrydol yng nghwmni rhiant neu warchodwr) yn ystod un o’u Nosweithiau Parêd. Mae rhai yn recriwtio drwy’r flwyddyn tra mae eraill yn recriwtio ar ddyddiadau penodol. Dewch i gael blas – does dim rhaid ymuno!
Bydd eich Sgwadron lleol yn gallu trafod beth maent yn ei wneud, dangos fideo o weithgareddau Cadétiaid yr Awyr ac ateb unrhyw gwestiynnau sydd ganddoch chi neu’ch rhieni/gwarchodwyr. Peidiwch â bod yn swil am gymeryd y cam cyntaf yna – efallai cewch ddarganfod bod hwn yw’r peth gorau i chwi ei wneud erioed.
|