Wales and West Region Logo Wales and West Air Cadets Air Cadet Logo

Ymuno fel Oedolyn Gwirfoddol

Ceir nifer o ffyrdd all oedolion gyfrannu o fewn Mudiad Cadétiaid yr Awyr.

Dwi’n teimlo fy mod yn cyfrannu rhywbeth i’r gymuned…”

Gwirfoddolwyr yw pob aelod o staff. Arweinir pob Sgwadron neu Uned gan Swyddog â Chomisiwn o fewn Llu Gwirfoddol y Llu Awyr Brenhinol (Cangen Hyfforddiant) – yr RAF VR (T). Maent yn derbyn cymorth o fewn Corfflu Hyfforddiant yr Awyr gan Swyddogion Gwarantedig sydd yn Oedolion gyda Hyfforddwyr Sifil yn cwblhau’r tîm. Ceir hefyd Caplan Sgwadron gan y mwyafrif o Unedau.

Yn ychwanegol i’r staff sydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda chadétiaid, mae yna chyfleoedd i eraill sydd eisiau helpu mewn safle cynorthwyol. Rhaid i bob Sgwadron gael Pwyllgor Sifil, gyda’r Pwyllgor yn cymeryd cyfrifoldeb am rheolaeth cyfan/cyfeiriad y Sgwadron, codi arian ac yn y blaen. Mae llawer o rhieni a ffrindiau yn cael llawer o fwynhad, bodlondeb a hwyl drwy weithio yn yr ardal pwysig yma.

Daw aelodau staff o bob math o gefndiroedd a gyrfaoedd. Mae’n siwr bydd yna ambell un yn gyn-aelod o’r Lluoedd Milwrol and nid yw hyn yn amod angenrheidiol. Nid yw’n anghyffredin i ddarganfod rhestr “Tudalennau Melyn” o grefftau; Cynorthwywyr Gwerthu, Mecanig, Swyddogion yr Heddlu, Myfyrwyr, Söolegwyr, Gweithwyr TG, Di-Waith, Staff Cyngor, Pobol Busnes…allech ddarganfod eich hun yn gwneud ffrindiau newydd gyda phobl sydd â phob math o sgiliau a thalentau.

Pe bae’ch diddordebau mewn modeli awyrennau, astronomegaeth, hwylio neu teithio yn y gofod; os oes ganddoch dystysgrif arweinydd mynydda, adennydd gleidio neu dim cymwysterau ffurfiol, os ydych eisiau helpu Cadétiaid yr Awyr i ddatblygu hunan-hyder, rhinweddau arweinyddiaeth a dinasyddiaeth da byddwch mewn cwmni tebol.

Un peth mae pawb yn rhannu yw’r ymrwymiad i rhoi o’u hamser hamdden i helpu pobol ifanc. Maent yn mwynhau cymeryd rhan mewn rhywbeth strwythuredig a chyffrous, a gweld cadétiaid yn datblygu. Mae gweld y golwg o balchder ar wyneb person ifanc wedi iddynt gael hedfan am y tro cyntaf, cwblhau alldaith neu pared mawr a gwybod eich bod wedi chwarae rhan mawr mewn helpu iddynt gyrraedd y nod yn wobr ynddo’i hun. Cewch llawer o hwyl eich hun hefyd, oherwydd cewch y cyfle i gymeryd rhan mewn llawer o’r gweithgareddau eich hun, boed hedfan, gleidio, saethu, canwio ayyb. Cewch gyfrifoldebau a sialens sydd yn dra gwahanol i’r diwrnod gwaith arferol. Mae’r unigolion hynny a oedd yn gadétiaid pan yn ifanc yn aml wedi ail-ymuno fel aelodau staff i “Rhoi rhywbeth yn ôl”. Beth bynnag yw’ch rhesymau am ymuno, does yna ddim llawer o ffyrdd well, mwy cyffrous, gwerthfawr neu boddhaol i sicrhau peidio â throi’n ‘daten teledu’!

 


 

[ Cyflwyniad | English | Newyddion | Datganiad Preifatrwydd | Ymwadiad y Wêfan | Cysylltwch â ni | Site Map ] Top of page
© Copyright Air Training Corps, Wales and West Region. All Rights Reserved