Wales and West Region Logo Wales and West Air Cadets Air Cadet Logo

Cymuned – Seremoniau Gorymdeithiau

 

Mae pob Cadét Awyr yn cymeryd rhan mewn Parêd.

Diffiniad Parêd yn ôl Geiriadur Saesneg Rhydychen yw “gorymdaith mewn trefn seremonïol” neu “i gynnull mewn ffurfiant fel mewn parêd milwrol”.

Mae dwy math o Barêd bydd Cadétiaid yr Awyr yn cymeryd rhan; y rheiny lle bydd yr iwnifform yn cymeryd rhan blaenllaw, a’r lleill sydd yn cymeryd rhan mewn parêd sifilaidd.

Yn arferol mewn parêd iwnifform bydd rôl arbennig i bawb sydd yn cymeryd rhan, gan gynnwys Bandiau a Baneri.

Ffurfir y Parêd y tu allan i olwg y rhai nad ydynt yn cymeryd rhan. Unwaith bydd pawb yn barod, bydd y rhannau leiaf o’r ffurfiant yn ymdeithio i Faes y Parêd a cymeryd eu safle priodol. Wedi i bawb ffurfio, gwelir gyfres o newidiadau mewn rheolaeth at yr Uwch Swyddog nes i’r Swyddog Adolygu gyrraedd.

Pwrpas y Swyddog Adolygu yw i archwilio y rheiny sydd wedi eu ymgynull ac, os bydd angen, i gyflwyno gwobrau neu dystysgrifau i’r sawl yn y Parêd.

Gwelir Cadétiaid yr Awyr yn orymdeithio i gofio’r ‘Battle of Britain’ ac ar bob Sul y Coffa, i gofio diwedd yr Ail Rhyfel Byd.

O bryd i’w gilydd derbynir gwahoddiadau i Gadétiaid yr Awyr gymeryd rhan mewn orymdeithiau dinesig mewn pentref, tref neu Bwrdeistref. Weithiau gofynnir i Swyddog Mewn Gofal y Sgwadron lleol i fod yn Farsial y Parêd yn yr achlysuron yma, ond yn y bôn rydym yna fel gwestai gan beidio ag ymgymeryd rôl ffurfiol heblaw orymdeithio yn y Parêd ei hun.

Yn ystod pob Parêd, mae cadétiaid yn falch iawn i gynrychioli nid yn unig ei huned, ond y Mudiad yn ei chyfanrwydd.

 

 

 
[ Cyflwyniad | English | Newyddion | Datganiad Preifatrwydd | Ymwadiad y Wêfan | Cysylltwch â ni | Site Map ] Top of page
© Copyright Air Training Corps, Wales and West Region. All Rights Reserved