Mae Hyfforddiant Antur yn
rhan bwysig o raglen hyfforddiant Cadétiaid yr Awyr. Yn
ogystal â helpu cadétiaid i feithrin ffrindiau newydd,
mae hyfforddiant antur yn gyfle gwych i bobl ifanc arddangos eu
rhinweddau arweinyddiaeth.

Mae yna rhaglen Hyfforddiant
Antur eang iawn o fewn y mudiad – yn dibynnol ar y sgwadron
yr ydych yn ymuno ag ef, gallwch flasu chwaraeon dwr, sgïo,
mynydda, canwio, mae yna digon o ddewis i bawb!

Mae cadétiaid Rhanbarth
Cymru a’r Gororau yn ffodus dros ben, gan bod Parciau Cenedlaethol
Eryri a Bannau Brycheiniog mor hawdd i’w cyrraedd, heb sôn
am fynediad i sawl afon a llyn rhagorol.

Mae yna dau Ganolfan Hyfforddiant
Antur Cenedlaethol i Gadétiaid yr Awyr ym Mhrydain, gydag
un ohonynt o fewn ffiniau’n rhanbarth, yn Llanbedr, Gwynedd.

Mae pob oedolyn sydd yn goruwchwylio
gweithgareddau Hyfforddiant Antur yn dal cymwysterau priodol gan
y Corff Reoli Cenedlaethol perthnasol.

Mae oedolion sydd eisiau arolygu
gweithgaredd antur yn derbyn hyfforddiant yng Nghanolfan Hyfforddiant
Antur y Cydluoedd yn Llanrwst, Gogledd Cymru. Defnyddir y Ganolfan
gan aelodau’r Lluoedd Arfog a chadétiaid hefyd.
fwy o wybodaeth am gyrsiau siaradwch
â Swyddog Hyfforddiant Antur eich Sgwadron, neu cysylltwch
â Phencadlys eich Adain. |