Mae Cadétiaid yr Awyr
yn cymeryd rhan mewn chwaraeon ar sawl lefel gwahanol, gan ennill
cydnabyddiaeth iddynt eu hunain, eu Sgwadron, Adain, Rhanbarth,
a gallent hyd yn oed cael eu dewis i gynrychioli’r Corfflu
yn genedlaethol.
Cynigir saith prif weithgaredd
chwaraeon gan mudiad Cadétiaid yr Awyr.
Rheolir pob weithgaredd chwaraeon
o dan rheolau cenedlaethol y mudiad llywodraethol perthnasol.
Athletau
Athletau yw’r weithgaredd
mwyaf poblogaidd o bell ffordd gall Cadétiaid yr Awyr cymeryd
rhan ynddo.
Fel arfer ceir cystadleuthau
athletau yn ystod misoedd yr hâf, a gall pob oedran cymeryd
rhan at y lefel uchaf.
Bechgyn o dan 15 oed
Bechgyn o dan 17 oed
Dynion Iau
Merched o dan 15 oed
Menywod Iau
O fewn y grwpiau oedran yma,
mae’r digwyddiadau canlynol ar gael:

Trac
|
Maes |
100m |
Naid Uchel |
200m |
Naid Hir |
400m |
Gwaywffon |
800m |
Taflu Maen |
1500m |
Disgen |
Râs Gyfnewid
4x100m |
|
Pêldroed
Mae Cadétiaid yr Awyr
yn cynnal cystadleuthau 11 bob ochr at lefelau Iau ag Uwch o ran
oedran, gyda’r grwp oedran uwch yn chwarae at lefel y Corfflu.
Chwarëir pêldroed pump bob ochr hefyd, ond fel arfer
dim ond hyd at lefel Rhanbarthol.
Mae pob Adain o fewn y mudiad
yn cynnal twrnameintydd rhwng eu sgwadronau; defnyddir y rhain i
ddewis y chwaraewyr gorau i gynrychioli’r Adain. Defnyddir
yr un system i ddewis tîm i gynrychioli’r Rhanbarth,
gyda’r Adeinydd o fewn y Rhanbarth yn cystadlu yn erbyn eu
gilydd ac yn y blaen at lefel ucha’r Corfflu. Wrth gyrraedd
y lefel yma, bydd cadétiaid yn cystadlu yn erbyn lluoedd
cadétiaid eraill a thîmau allanol, weithiau at lefel
rhyngwladol.
Dim ond cadétiaid gwryw
all gystadlu pêldroed 11 bob ochr, a chwarëir y gêm
o dan rheolau y Gymdeithas Bêl Droed. Cynhelir twrnameintydd
pêldroed rhwng-Sgwadron fel arfer o gwmpas tymor yr Hydref.
Gall bechgyn a merched fwynhau
cystadlu yn y gêm pump bob ochr (er bod cyfranogiad merched
yn ddibynnol ar adnoddau newid digonol ar lleoliad). Cynhelir twrnameintydd
pump bob ochr fel arfer ar ddechrau’r flwyddyn, gan ddenu
llawer i gystadlu.
Rygbi
Dim ond cadétiaid gwryw
all chaware rygbi o fewn y mudiad. Chwarëir at bob lefel (Uwch)
ond dim ond at Adain at lefel Iau, er bod rhai Rhanbarthau yn trefnu
gemau cyfeillgar at lefel Iau.
Mae hefyd twrnamaent rygbi
Rhyng-Rhanbarthol Iau, sydd yn cynnig cyfle i gystadlu.
Cynhelir gemau fel arfer rhwng
tymhorau’r Hydref a Gaeaf cynnar, gyda gemau’r Corfflu
yn cael eu cynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae rhai Adeinydd
hefyd yn cynnig Rygbi Saith bob Ochr.
Hoci
Chwarëir Hoci gan ferched,
ac mae’n bosibl cystadlu hyd at lefel cynrychioli’r
Corfflu.
Cynhelir twrnameintydd rhyng-Sgwadron
gan sawl Adain lle dewisir cadétiaid i gynrychioli’r
Adain, Rhanbarth a’r Corfflu.
Cynhelir twrnameintydd
Hoci fel arfer yn hwyr yn y flwyddyn..
Pêl Rwyd
Chwarëir Pêl Rwyd gan ferched ar gychwyn y flwyddyn, gan alluogi chwaraewyr i weithio at gynrychioli’r Corfflu.
Nid oes gyfyngiad oedran tra’n cystadlu ar lefel sgwadron, ond i gystadlu ar lefel Adain ac uwch ceir adrannau Iau ac Uwch.
Nofio
Nofio yw’r weithgaredd
chwaraeon mwyaf llwyddiannus, gyda’r Corfflu yn ennill y 29
cyfarfod blynyddol diwethaf rhwng y tri gwasanaeth cadétiaid.
Ceir nofio o fewn y pedwar grwp canlynol:
Merched
Iau
Merched Uwch
Bechgyn Iau
Bechgyn Uwch
Fel arfer trefnir cystadleuthau
nofio yn hwyr yn nhymor yr Hydref. Gall cystadleuwyr gystadlu ym
mhob lefel.
Gweler islaw rhestr o’r cystadleuthau:-
Rhydd
Cefn
Broga
Pili Pala
Cymysg Unigol
Cyfnewid Cymysg
Cyfnewid Rhydd
Traws Gwlad
Fel arfer, rasio Traws Gwlad
yw’r gweithgaredd diwethaf yn y flwyddyn i’r rhan fwyaf,
gyda cystadleuthau i ferched Iau ag Uwch, a bechgyn Iau ag Uwch.
ae’r
cyrsiau milltir a hanner i dair milltir, gyda’r cyfle i gystadlu
ym mhob lefel.
ychwanegol i’r saith
prif maes chwaraeon yma o fewn y mudiad, mae yna amrywiaeth eang
o chwaraeon eraill a chwarëir o fewn Sgwadronau ac Adeinydd,
gan gynnwys Tenis Bwrdd, Pêl Foli a llawer iawn mwy.
Y tuedd yw i chwarae rhain
am balchder lleol a hwyl yn hytrach nag i fod yn gystadleuol; does
dim rhaid i chi anelu at fod y seren Olympaidd nesaf! Mae’r
cyfleoedd yna, mwynhewch eich hun!
Am fanylion pellach, siaradwch â
Swyddog Chwaraeon eich Sgwadron.
|