Mae pob cadét yn cael
cyfle i saethu reiffl targed. Yn rhan o faes llafur y Corfflu, mae
saethu targed yn weithgaredd poblogaidd iawn gan y cadétiaid.
Y maes saethu yw lle bydd
cadétiaid yn ymarfer y grefft yma, o dan oruwchwyliaeth agos
ar bob adeg. Daw meysydd saethu mewn sawl maint a siâp, ond
i gychwyn, cymerir lle gyda’r targed 25 medr i ffwrdd o’r
saethwr, un âi ar faes o dan do, neu maes allanol. Wrth i’r
cadétiaid derbyn hyfforddiant pellach, a’i sgiliau
gynyddu, byddent yn cael saethu at dargedau o 100 medr i ffwrdd,
neu pellach. Mae pob reiffl yn cael ei danio gyda’r saethwr
yn gorwedd ar ei fol, ac at dargedau llonydd yn unig.
Hyfforddiant a Diogelwch yw prif busnes Cadétiaid yr Awyr, ac mae pob cadét wedi cael hyfforddiant llawn ar sut i ddefnyddio pob arf byddent yn ei ddefnyddio. Mae pob goruwchwyliwr wedi ei hyfforddi ar sut i ddelio ag unrhyw bosibilrwydd, ac i sicrhau bod y maes yn effeithlon ac yn ddiogel i'w defnyddio.

|