|
Mae Cynllun Gwobr Dug Caeredin
yn rhaglen gwirfoddol di-gystadleuol o weithgareddau ymarferol,
diwyllianol ac anturus i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.
Ceir tri lefel i’r Cynllun; Efydd, Arian ac Aur, gyda phob
un â gofynion mynediad a’r lefel cyrhaeddiad gwahanol
sydd ei angen i gwblhau pob gwobr.

Mae Cadétiaid yr Awyr
sydd yn cyrraedd y gofynion oedran yn gallu ymuno â’r
Cynllun Gwobr. Gellir rhannu pob Gwobr i 4 adran (5 ar gyfer yr
Aur) sydd yn rhaid eu cwblhau’n llwyddiannus i ennill y Gwobr
sef:
- Gwasanaeth
Helpu eraill yn y gymuned lleol.
- Alldeithiau
Ymarfer, derbyn hyfforddiant a chynllunio
alldaith.
- Sgiliau
Dangos abledd mewn bron iawn unrhyw
hobi, sgil neu diddordeb.
- Hamddena Corfforol
Chwaraeon, dawns a ffitrwydd
- Prosiect Preswyl
(Gwobr Aur yn unig)
Menter pwrpasol gyda phobl ifanc nas adnabyddir gan yr ymgeisydd o flaen llaw.
Cydnabyddir Y Wobr yn eang
gan gyflogwyr, gan ei bod yn helpu i arddangos bod ennillwyr y Wobr
yn awyddus i wynebu sialensau newydd, yn medru â lefel uwch
o hunan-hyder na’i cydoedion, yn dangos rhinweddau da o arweinyddiaeth
a chanddynt brofiad ychwanegol o waith tîm.
Gellir darganfod gwybodaeth
pellach ar wêfan Gwobr Dug Caeredin – www.theaward.org. |