Wales and West Region Logo Wales and West Air Cadets Air Cadet Logo
Gweithgareddau - Gwersylla a Chyrsiau

 

Gwersylla Blynyddol

Yn flynyddol bydd cadétiaid yn cael cyfle i wersylla ar orsaf gweithredol y Llu Awyr Brenhinol. Mae’r gwersyll yn para wythnos gyda’r prif bwrpas o ddangos cadétiaid ychydig o fywyd ar orsaf y Llu Awyr. Mae hefyd yn gyfle gwych i gyfarfod â ffrindiau newydd a chael llawer o hwyl. Byddwch yn cysgu mewn adeiladau yr RAF, bwyta yn ffreutur y personél ac ymweld ag adrannau o amgylch yr orsaf e.e. unedau hedfan, y twr reoli ayyb. Bydd hefyd gweithgareddau chwaraeon, cyfeiriadu, ymarferion gyda’r nos, cwisiau, cystadleuthau adnabod awyrennau ac unryw weithgareddau cymdeithasol eraill fydd ar gael.

Bydd pob cadét ar wersyll fel arfer yn cael hedfan mewn un o awyrennau ‘Tutor’ y Llu Awyr, tra mae bod ar orsaf y Llu Awyr yn cynnig cyfleoedd i hedfan mewn awyrennau eraill all fod ar yr orsaf.
Weithiau caiff gadétiaid dro 16 oed gosodiad Profiad Gwaith tra’n aros ar yr orsaf. Mae hyn yn gyfle arbennig i weld swyddi yn y Llu Awyr eich hun.
Mae gan pob orsaf RAF Swyddog Cyswllt Cadétiaid Awyr (ACLO) bydd wrth law i wneud yn siwr bod y gwersyll yn rhedeg yn esmwyth, a bod cyn gymaint o gyfleoedd â phosib ar gael i gadétiaid yn ystod eu hymweliad.


Gwersylloedd Sgwadron

Fel arfer trefnir y rhain gan Sgwadron neu Adain dros benwythnos i ganiatâu hyfforddiant mwy manwl, ond mewn llai o ddyddiau, sydd ddim yn ymyrryd gyda dyddiau ysgol. Defnyddir y gwersylloedd yma am amrywiaeth o bethau e.e. cyrsiau i swyddogion digymwys ieuengach, gweithgareddau cyfeiriadu neu ymarferion nos hir.

Gwersylloedd Tramor

Unwaith mae cadét wedi mynychu wersyll yn y Deyrnas Unedig ac wedi cyrraedd 15 oed, gall ceisio am wersyll Tramor.
Ar hyn o bryd mae gennym wersylloedd yn RAF Gibraltar, RAF Akrotiri yng Nghyprus ag RAF Rheindahlen yn yr Almaen.
Yn gyffredinol mae gwersylloedd Tramor yn mwy hamddenol am bod y cadétiaid yn fwy profiadol. Maent yn canolbwyntio llai ar dril a mwy ar agweddau eraill o wersylla, fel derbyn profiad gwerthfawr gyda phersonél y Llu Awyr, ag ymweld â safleoedd lleol o ddiddordeb hanesyddol neu milwrol.
Bydd hefyd cyfleoedd i gadétiaid archwilio trefi lleol yn yr ardal, e.e. Limassol yng Nghyprus.
Er bod mynychu gwersyll tramor yn ddelfrydol i bob cadét, mae’r nifer i deithio yn gyfyngedig, felly mae ceisio am le ond y cam cyntaf. Efallai bydd cystadleuaeth am le o fewn eich sgwadron am y cyfle i deithio i Bencadlys eich Adain am gyfweliad. Dim ond wedi’r cyfweliad yma cewch ddarganfod os mae chi sydd wedi ei ddewis i fynd!

Cyfnewid Rhyngwladol Cadétiaid yr Awyr (IACE)

Mae’r IACE yn cysylltu pobol ifanc gyda diddordeb mewn hedfanaeth ledled y byd drwy chyfnewidfa ymweld 15 diwrnod pob mis Gorffenaf ag Awst.
Gwelwyd y Cyfnewid cyntaf yn ôl yn 1947 rhwng yr ATC (D.U.) a Chadétiaid Awyr Brenhinol Canada. Mae’r Cymdeithas bellach yn cynnwys 19 o wledydd sydd yn Cyfnewid ryw 600 o gadétiaid/staff yn flynyddol, gan ddefnyddio Saesneg fel yr iaith cyswllt. Mae’r D.U. yn cyfnewid 90 cadét gydag 14 o wledydd yn flynyddol – mae nhw yn dod yn ôl ar y diwedd!
Gall cadétiaid rhwng 17 a 21 oed geisio am le ar y cynllun gan obeithio bod yn ffodus i gael un o’r safleoedd prin a rhoddir yn flynyddol.

Cwrs Arweinyddiaeth Ieuengach

Mae’r cwrs Arweinyddiaeth Ieuengach wedi ei ddatblygu ar gyfer swyddogion digymwys uwch sydd â lefel uchel o ymrwymiad i luoedd cadétiaid y D.U. Sgwadron-bennaeth o Bencadlys AC RAFC Cranwell yw Comander y cwrs, sydd yn rhedeg am naw penwythnos gydag ymarferiad terfynol o naw diwrnod, dros gyfnod o wyth mis. Dysgir nifer eang o sgiliau i’r disgyblion, ac mae’r gwersi wedi eu cynllunio i ddatblygu sgiliau rheolaeth, gan alluogi’r disgyblion i arwain oedolion, yn ogystal a chadétiaid. Mae’n gwrs pasio/ffaelu, gyda’r cyfartaledd o ddisgyblion sy’n pasio o gwmpas 68%. Mae Maes Llafur Cwrs Arweinyddiaeth Ieuengach wedi ei gynllunio’n fanwl i gynnig bwydlen cytbwys o hyfforddiant a chyfarwyddyd. I’r sawl sydd yn ystyried ymuno â’r Lluoedd Arfog fel Swyddogion mae’r cwrs yn cynnig mewnwelediad realistig i’r gofynion, diwylliant a phroffesiynoldeb bywyd yn y Gwasanaethau. Yn ddechreuol, mae’n rhaid i ddisgyblion dichonol basio penwythnos dewisol, lle cynhelir asesiad o’u addasrwydd i’r cwrs. Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus yna’n symud ymlaen i gam cyntaf y cwrs. Am fanylion pellach, gweler www.juniorleaders.org.

Cwrs Arweinyddiaeth HQ Air Cadets

Cynhelir yn RAF Stafford. Rhaid i gadétiaid bod rhwng 16 – 18 oed, ond nid oes angen rheng neu dosbarthiad penodol.


[ Cyflwyniad | English | Newyddion | Datganiad Preifatrwydd | Ymwadiad y Wêfan | Cysylltwch â ni | Site Map ] Top of page
© Copyright Air Training Corps, Wales and West Region. All Rights Reserved